Y Stori
Mae stori’r Lafant Cymreig yn dechrau yn 2003 ond mewn rhai ffyrdd ymhell cyn hynny. Mae’n stori am brosiect a grëwyd gan ddau o Ganada sy’n byw yn Nyffryn Maesmynis yng Nghanolbarth Cymru ac sy’n credu nad oes lle gwell yn bod yn y byd. Y ddau yw’r newyddiadurwraig, Nancy Durham ac athronydd gwyddoniaeth o Rydychen, Bill Newton-Smith. Am flynyddoedd roeddent wedi edrych allan dros y caeau a’r gwrychoedd hynafol yn eu dyffryn delfrydol a meddwl beth, heblaw defaid, a allai ffynnu yma. Un noson braf yng ngwanwyn 2003, wrth sgwrsio gyda’u ffrindiau a’u cymdogion, Baden a Betty Powell, crybwyllodd Nancy yr hoffai blannu lafant. Roedd hi yn meddwl am blannu gwrych byr. Symudodd y sgwrs ymlaen ac ni ddywedwyd dim mwy hyd nes i Baden ddod ag adroddiad yn ôl rai wythnosau yn ddiweddarach. Roedd asiantaeth o’r enw Glasu* – partneriaeth datblygu gwledig yn dymuno helpu ffermwyr i arallgyfeirio. Efallai, meddyliai Baden, y byddai cae o lafant yn gymwys.
Roedd Nancy yn amau a allai lafant oroesi ar gae oedd ar 1100 troedfedd ar ben eu bryn mynyddig a gwlyb. Ond roedd ffermwyr dyffryn Maesmynis yn hyderus y byddai’n tyfu yn y pridd coch cyfoethog ac y byddai’r llethr yn help i ddraenio’r dŵr.
Ar y pryd roedd lafant yn dod yn ôl i ffasiwn. Roedd wedi cael gwared ar ei ddelwedd fel rhywbeth oedd ar gyfer neiniau yn unig. Roedd pobl eraill yn gwybod am ei fanteision. Roedd digon wedi ei ysgrifennu am arogl ffres, ifanc, gwyllt lafant a’i bwerau i wella ac i dawelu’r enaid. Roedd piws mewn ffasiwn unwaith eto.
Felly yn 2003, gyda chymorth grant bach gan Glasu, daeth Nancy a Bill i fod y cyntaf yng Nghymru i dyfu lafant ar raddfa caeau. Pan welwyd eu lafant yn ffynnu mewn amodau a oedd yn wahanol iawn i gaeau heulog Provence, ymchwiliwyd i’r posibilrwydd o wneud olew lafant ac arbrofwyd gyda phrototeip bychan o ddistyllbair (‘still’). Roedd yn llwyddiant ac roedd yr ychydig o olew a gynhyrchwyd yn ddigon i Helen Lowe, sy’n gwneud hufennau Ruby’s Lafant Welsh Lavender, wneud rhai cynhyrchion fel enghreifftiau.
Roedd y canlyniadau yn syfrdanol ac yn ystod haf 2010 buddsoddodd Nancy a Bill mewn offer distyllu olew sydd bellach yn gweithredu ar y fferm ac sy’n golygu mai nhw oedd y cyntaf i ddistyllu lafant yng Nghymru. Dechreuwyd gyda 2000 o blanhigion yn 2003 ac erbyn haf 2010 roeddent wedi cyrraedd 9,000. Maent yn bwriadu parhau i ehangu ar eu fferm 50 erw yng nghanol Powys, canolbarth Cymru.
Cynaeafir y lafant â llaw gan Nancy, Bill a’u tîm. Gwneir yr hufenau – gyda chynhwysion sy’n 100% naturiol – i gyd yng Nghymru gan Helen a ddechreuodd ei gyrfa mewn coluron yn gynnar yn y nawdegau gyda’r llysieuydd o Lundain, G Baldwin & Co. Yna dysgodd wneud hufenau a hylifau arbennig a darganfu ei hoffter am arbrofi gyda chynhwysion cosmetig. Pan gafodd ei gwahodd i gydweithio gyda Nancy a Bill ar y llinell gyntaf o hufenau lafant Cymreig bachodd ar y cyfle. “Mae ganddynt gaeau o lafant a’u distyllbair eu hunain. Roedd gwneud ystod lawn o ofal i’r croen yn seiliedig ar hynny yn rhywbeth nad oedd modd ei wrthod. Mae pawb arall yn prynu pethau i mewn. Rydym ni wedi rhoi eu caeau lafant nhw mewn potel. Ac mae pob cynhwysyn unigol yr wyf wedi ei ychwanegu yn fuddiol.”
Plannu
Mae planhigion lafant yn cymryd rhyw dair blynedd i ddod yn gwbl gynhyrchiol ac yn byw am unrhyw beth o bump i 20 mlynedd. Yn ystod haf 2010 helpodd tîm o blanwyr ni i blannu rhyw 7,000 plwg dros bedwar diwrnod. Gwnaethom hyn gyda manylder milwrol, gan fapio’r cae oedd wedi ei aredig a’i baratoi o’r newydd yn fathemategol gyda phren mesur enfawr i sicrhau y byddai pob planhigyn yn union 18″ oddi wrth y nesaf yn y rhes ac y byddai’r rhesi eu hunain yn union bum troedfedd oddi wrth ei gilydd. Mae’r lle agored rhwng y rhesi yn lleihau i ryw ddwy droedfedd wedi i’r planhigion gyrraedd aeddfedrwydd ac mae angen y lle hwnnw fel y gallwn weithio i fyny ac i lawr y rhesi adeg y cynhaeaf.
Rydym yn defnyddio gorchudd polypropylene y gellir ei ailgylchu i orchuddio’r ddaear i gadw’r chwyn i lawr mewn dull organig. Nid yw’n beth hardd i edrych arno ond wrth i’r planhigion dyfu a lledaenu y lafant sy’n dal eich llygad ac nid y gorchudd. Gwneir hollt bychan yn y gorchudd ar gyfer pob planhigyn. Mae chwyn yn dal i lwyddo i dyfu drwy’r hollt ac mae angen ymdrin â nhw hyd nes bo’r planhigion yn ddigon mawr i’w cadw allan. Mae’r gorchudd dros y ddaear yn “anadlu” gan ganiatáu i ddŵr ac aer fynd i mewn ac allan.
Mae angen i blanhigion newydd gael eu torri yn ôl cyn blodeuo am y ddwy neu dair blynedd gyntaf. Mae hyn yn annog twf ochrol a phlanhigion mwy cynhyrchiol, a llawnach. Planhigion lafant aeddfed sy’n cynhyrchu’r olewau gorau.
Mae ar blanhigion aeddfed angen eu tocio hefyd wedi iddynt orffen blodeuo. Mae eu tocio yn eu hatal rhag datblygu coesau hir coediog sy’n mynd allan o reolaeth. Wrth docio cymerir gofal i beidio â thorri i mewn i ran goediog y goes. Gwneir y toriad gan adael ychydig o fodfeddi o dyfiant gwyrdd newydd y tymor.
Nid ydym eto wedi meistroli system effeithiol ar gyfer lledaenu ein plygiau ein hunain felly ar hyn o bryd rydym yn eu prynu.
Gwddoniaeth Lafant
Mae lafant wedi cael ei ddefnyddio ers adegau hynafol ond ychydig iawn o astudiaeth wyddonol a wnaed i’w effeithlonrwydd. Nid oes angen gwyddonwyr i ddweud wrthym ei fod yn arogli’n wych ond byddai’n ddefnyddiol gwybod pam fod defnyddwyr yn gwneud cymaint o honiadau ynghylch ei nodweddion llesol: dywedir bod lafant yn ymlaciol ac yn blanhigyn sy’n bywiogi pobl. Mae lafant gwirioneddol fel Maillette yn gwneud i chi ymlacio yn y bath cyn mynd i’r gwely tra bo gan hybrid fel camphorous Grosso arogl ffres sy’n eich bywiogi. Dywed defnyddwyr lafant fod ei nodweddion oeri yn helpu i liniaru effeithiau llosg haul a bod ganddo bwer iachusol ar gyfer mân losgiadau a smotiau. Dywedir bod lafant yn cadw gwyfynod a gwenyn meirch i ffwrdd. Yn ymarferol mae’n ymddangos i ni fod yr honiadau hyn yn wir. Ond honiadau ydyn nhw o hyd a hoffem weld ymchwiliad gwyddonol o ddifrif iddynt. Pam nad ydym fyth yn gweld gwenyn meirch yn ein caeau lafant, ond llawer o gacwn yn mynd o blanhigyn i blanhigyn. Mae chwistrell o ddŵr lafant (a elwir hefyd yn hydrolat, isgynnyrch o’r broses distyllu) ar bigiad mosgito yn cael effaith oeri ac yn lliniaru’r cosi hefyd. Ond ni allwn egluro pam. Mae nifer o astudiaethau a wnaed dros y degawd diwethaf yn tynnu sylw at y ffaith fod lafant yn chwarae rôl yn y gwaith o leihau straen, pryder a chynnwrf yn ogystal â helpu i atal diffyg cwsg. Dyma grynodeb o rywfaint o’r ymchwil: http://www.zhion.com/herb/Lavender.html Rydym yn chwilio am astudiaethau gwyddonol dibynadwy ar lafant.
Amrywiaethau O Lafant
Mae dosbarthiad lafant a’r dull o enwi yn hynod o gymhleth a dryslyd. Ceir o leiaf 39 rhywogaeth o’r rhywogaeth lavandula a channoedd yn fwy o gyltifarau (e.e. hybridau). Mae rhai lafantau yn cynhyrchu olew; ac mae llawer ddim. Ond nid ydynt i gyd yn biws er mai dyna liw y rhan fwyaf ohonynt. Mae’r gwir lafant yn aml yn cael ei alw yn lafant Seisnig ond mewn gwirionedd maent yn dod o Fôr y Canoldir. Ac mae’r lafant sy’n cael ei ffermio’n fwyaf cyffredin yn y byd – Grosso – yn rhywbeth nad yw hyd yn oed yn wir lafant. Mae’n hybrid a enwyd ar ôl y dyn a’i datblygodd yn y saithdegau yn Ffrainc, Pierre Grosso. Mae gan Grosso nodau glân a chryf, mae’r coesyn yn hir a’r blodau yn ffurfio siâp conigol. Rydym yn tyfu pedwar ar ein fferm fynyddig yng Nghymru. Mae dau ohonynt, Grosso a Maillette (lafant ‘gwir’ neu angustifolia) yn cynhyrchu olew. Tyfir y ddau i ddibenion addurnol yn unig: Royal Purple ac Imperial Gem.
Y Cynhaeaf
Rydym yn torri lafant gyda chrymanau bach danheddog yr ydym wedi’u casglu ar ein teithiau yn Sisili lle gelwir cryman yn falce ac yn Portiwgal lle mae’n cael ei alw yn foice. Rydym wedi meistrioli’r ddau air hwn ac wedi difyrru siopwyr yn y ddwy wlad wrth inni fynd i chwilio am y teclyn perffaith i dorri lafant. Cynhelir y cynhaeaf ym mis Gorffennaf a mis Awst. Rydym yn torri Imperial Gem ac yn dilyn hynny Royal Purple pan maent yn llawn lliw ac ar fin agor. Y lliw piws cyntaf a welir yw’r calyx, y câs blodeuol. Yna, wrth iddyn nhw ddatblygu a dechrau agor daw’r corola, petalau’r blodau, i’r golwg. Ar gyfer cynhyrchwyr nad ydynt yn cynhyrchu olew rydym yn torri ar yr union adeg y mae’r corollas yn dechrau popian. Rydym yn eu clymu yn glystyrau bach gyda bandiau rhwber oherwydd mae’r coesau yn crebachu wrth iddynt sychu yn hongian ar wifrau yn ein sied. Os torrwn yn rhy hwyr mae’r blodau’n disgyn yn rhwydd ac nid ydynt yn gwneud torchau da. Cymerwn flodau rhydd oddi ar y coesau i lenwi clustogau. Maillette sy’n cael ei gynaeafu nesaf yn niwedd Gorffennaf, a dilynir hyn gan Grosso a ddefnyddir i gynhyrchu olew.
Distyllu
Wrth gynhyrchu olew dywedir bod amseru yn bopeth. Dywed rhai mai’r eiliad berffaith i dorri – er mwyn cael y cynnyrch mwyaf posibl yw pan fo traean y blodau wedi cau, traean ohonynt ar agor a thraean wedi gorffen. Roeddem yn canfod bod llusgo o gwmpas y cae yn ceisio nodi pryd oedd y cam hwnnw’n digwydd yn beth anodd yn ein blwyddyn gyntaf o gynhyrchu olew. Mae Alastair Christie o Jersey Lavender yn garedig iawn wedi gweithredu fel mentor inni. Ei gyngor ef oedd cadw’r cyfan yn syml a thorri’r blodau pan maent yn ymddangos fel pe baent wedi’u hanner orffen. Roedd hyn yn gwneud dyddiau penderfynu yn haws yn ein tymor distyllu cyntaf. Ond y mae pethau eraill i’w hystyried. Dylid gwneud y cynaeafu pan mae’n sych, yn ddelfrydol ar ddiwrnod heulog cyn gynted ag y mae’r gwlith wedi codi. Cynhyrchir mwy o olew ar ddyddiau heulog nag ar ddyddiau cymylog. Mwy pan fo’n gynnes yn hytrach na phan mae’n oer. Yn ogystal, ceir dadleuon am ba mor dynn y mae rhywun yn pacio’r lafant ym masged y distyllbair, a pha mor hir y dylid gadael y lafant i goginio. I ddistyllu ein lafant rydym yn pacio basged rhwyll yn weddol dynn – â llaw – ac yna yn ei gosod y tu mewn i silindr ddur lle mae’n eistedd ar ymyl yn union uwchben y dŵr. Mae’n cymryd bron i awr i’r dŵr gyrraedd y berwbwynt. Mae’r ager a gynhyrchir yn gwthio drwy’r lafant ac fe’i gorfodir drwy diwb cysylltu i’r cyddwysydd lle mae coil 25 troedfedd o ddur gwrthstaen yn sbiralu tuag i lawr. Mae dŵr oer sy’n rhedeg drwy’r cyddwysydd yn oeri’r coil, gan droi’r ager yn ôl yn hylif. Ar ddiwedd y broses, mae’r olew a’r dŵr yn gwahanu i’r Florentine, fflasg ar waelod y cyddwysydd. Mae olew lafant yn ysgafnach na dŵr felly mae tap bach ar dop y Florentine yn rhyddhau’r olew tra bo’r dŵr blodeuol neu’r hydrolat yn cael ei gasglu drwy dap yn y gwaelod. Mae ychydig o ddŵr bob amser yn dod drwodd gyda’r olew ac felly’r cam terfynol yw defnyddio gwahanwr ar ffurf twndis i sgimio’r olew pur. Rydym yn rhedeg y distyllbair am ryw ddwy awr ar y tro, gan dynnu olew bob ugain munud neu debyg. Mae’r profion coronomedr nwy ar ein holew yn dangos nad oes bron unrhyw amrywiad yn yr ansawdd dros y cyfnod hwnnw o ddwy awr. Mae un fasgedaid o flodau Grosso yn cynhyrchu 125 mililitr o olew. Gall yr un cyfanswm o Maillette, fel gwir lafantau eraill, gynhyrchu rhyw 25 mililitrau.
* Rheolir prosiectau Glasu o dan Bartneriaeth Adfywio Powys a Chyngor Sir Powys, ac maeín derbyn cyllid drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-13 a gyllidir gan yr Undeb Ewropeaidd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Soften Body Cream 185ml
Rejuvenate Serum 45ml
Welsh Lavender Chocolate Bar
Dried lavender flowers 

